SL(5)215 – Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (OS 2015/622) ('Rheoliadau 2015') drwy wneud nifer o welliannau technegol. Sefydlodd Rheoliadau 2015 gynllun ('cynllun 2015') ar gyfer talu pensiynau a buddion eraill i ddiffoddwyr tân yng Nghymru o 1 Ebrill 2015.

Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015 (sy'n llywodraethu'r broses o drosglwyddo aelodau o gynlluniau 1992 a 2007 i gynllun 2015) i wneud mân welliant technegol.

Y weithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar y rhinweddau

Nodir pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Mae'r darpariaethau yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018 yn ôl-weithredol ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2015, sef y dyddiad y daeth cynllun 2015 i rym, (ac eithrio rheoliad 8(3) sy'n dod i rym ar 1 Mehefin 2018).

Rhoddir y pŵer i wneud darpariaeth ôl-weithredol mewn rheoliadau gan adran 3(3)(b) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ('Deddf 2013'). Mae adran 23 o Ddeddf 2013 yn nodi gweithdrefn ar gyfer gwneud darpariaeth ôl-weithredol, gan gynnwys:

·         o dan isadran (1), gofyniad am gael cydsyniad gan bersonau y mae'n debygol y bydd y darpariaethau'n effeithio arnynt lle'r ymddengys bod darpariaeth ôl-weithredol yn cael effeithiau andwyol sylweddol mewn perthynas â'r pensiwn sy'n daladwy neu mewn perthynas ag aelodau'r cynllun: neu

·         o dan isadran (2), gofyniad i ymgynghori â phersonau y mae'n debygol y bydd y darpariaethau'n effeithio arnynt (gyda'r bwriad o ddod i gytundeb â phersonau o'r fath), lle'r ymddengys nad yw'r ddarpariaeth ôl-weithredol yn cael effeithiau andwyol sylweddol fel y nodir yn isadran (1) ond yn cael effeithiau andwyol sylweddol mewn unrhyw ffordd arall mewn perthynas ag aelodau'r cynllun.

Mewn perthynas â'r weithdrefn ôl-weithredol o dan adran 23 o Ddeddf 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi egluro i Wasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad nad yw'r Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i adran 23 oherwydd nad oes unrhyw effaith andwyol sylweddol ar aelodau'r cynllun ac mai diben y Rheoliadau yw cywiro gwallau a/neu egluro materion neu mewn perthynas â'r darpariaethau eraill sy'n cael effaith ôl-weithredol. Mae'r esboniad hwn i'w weld yn foddhaol. Yn ogystal, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd fod ymarfer ymgynghori llawn wedi'i wneud wrth ddatblygu'r Rheoliadau hyn gyda chyrff sy'n cynrychioli aelodau'r cynllun pensiwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o effaith adran 23 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag aelodau’r cynllun neu eu cynrychiolwyr ynghylch unrhyw newidiadau ôl-weithredol i reolau’r cynllun a fyddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar aelodau’r cynllun, a/neu geisio eu cydsyniad i’r newidiadau hynny. Nid yw Llywodraeth Cymru yn credu y bydd y rheoliadau hyn yn cael unrhyw effaith o’r fath. Eu hunig ddiben yw cywiro camgymeriadau technegol ac amwyseddau yn rheolau’r cynllun, felly mae unrhyw effaith ar aelodau yn niwtral neu’n gadarnhaol. Serch hynny, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori llawn gan atodi fersiwn ddrafft o’r OS. Ni chododd yr un o’r ymatebwyr, gan gynnwys holl brif undebau’r diffoddwyr tân, unrhyw faterion mewn perthynas ag unrhyw effeithiau andwyol sylweddol. 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

15 Mai 2018